Telerau-Amodau ac Datganiad Preifatrwydd
Telerau ac Amodau ar gyfer Defnyddio Gwefan www.apdservices.net
Mae'r Telerau a’r Amodau hyn ("y Telerau a’r Amodau") yn rheoli eich defnydd chi ("y Defnyddiwr") o wefan Gwasanaethau APD Services Cyf ("Darparwr") sydd wedi'i lleoli ar enw parth www.apdservices.net ("y Wefan"). Trwy gyrchu a defnyddio'r Wefan, mae'r Defnyddiwr yn cytuno i gael ei rwymo gan y Telerau a’r Amodau a nodir yn yr hysbysiad cyfreithiol hwn. Ni chaiff y Defnyddiwr gyrchu, arddangos, defnyddio, lawr lwytho, a/neu gopïo neu ddosbarthu fel arall Gynnwys a geir ar y wefan ar gyfer marchnata a dibenion eraill heb ganiatâd y Darparwr.
Electronic Communications
Drwy ddefnyddio'r Wefan hon neu gyfathrebu â'r Darparwr drwy ddulliau electronig, mae'r defnyddiwr yn cydsynio ac yn cydnabod bod pob cytundeb, hysbysiad, datgeliad, neu unrhyw gyfathrebiad arall yn bodloni unrhyw ofyniad cyfreithiol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r gofyniad y dylai cyfathrebiadau o'r fath fod yn ysgrifenedig.
E-fasnach a Phreifatrwydd
Mae’r Wefan www.apdservices.net yn gwerthu gwasanaethau casglu ariannol a/neu wasanaethau gweithredu proses ar-lein neu dros y ffôn drwy'r wefan. Mae'r defnydd o unrhyw wasanaeth a brynir o'r Wefan hon ar risg y prynwr. Mae'r prynwr / defnyddiwr yn indemnio a gwarchod y Darparwr rhag unrhyw golled, anaf neu iawndal a geir yn sgil defnyddio unrhyw wasanaethau ar y Wefan.
Bydd y wybodaeth breifat sy'n ofynnol ar gyfer gweithredu'r archebion / gwasanaeth a wneir drwy'r cyfleuster e-fasnach, sef gwybodaeth bersonol y Defnyddiwr, yn cael ei storio a'i defnyddio yn unol â'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Lle bo hynny'n berthnasol, dim ond yr wybodaeth angenrheidiol a gaiff ei rhoi i drydydd partïon sy'n darparu'r gwasanaethau. Nid yw'r Darparwr yn cadw manylion cerdyn talu o dan unrhyw amgylchiadau.
Ni ellir dal y Darparwr yn gyfrifol am dorri amodau diogelwch sy'n digwydd ar ddyfais electronig y Defnyddiwr (Cyfrifiadur Personol neu ddyfais electronig arall a ddefnyddir i bori'r Wefan), a allai ddigwydd am nad oes meddalwedd digonol i ddiogelu rhag firysau neu ysbïwedd y gallai'r Defnyddiwr fod wedi'i osod ar ei ddyfais yn anfwriadol.
Talu Ar-lein – Porth Talu Trust Payments
Mae'r holl daliadau cerdyn credyd ar-lein yn cael eu prosesu gan Trust Payments. Gall Deiliaid Cardiau fynd i www.trustpayments.com i weld polisïau diogelwch Trust Payments.
Polisi Ad-dalu a Dychwelyd
Mae'r gwasanaethau a ddarperir yn amodol ar argaeledd. Os nad yw’r gwasanaethau ar gael neu os na ellir darparu gwasanaeth y cytunwyd arno, bydd y darparwr, yn yr achosion hynny, yn ad-dalu'r cleient yn llawn o fewn 30 diwrnod. Os bydd y cleient yn canslo archebion neu gyfarwyddyd codir tâl o 10% am gostau gweinyddu.
Mae'r Darparwr yn cadw'r hawl i ganslo archeb neu wasanaeth y derbyniwyd taliad ar ei gyfer eisoes. Gall hyn ddigwydd os na allwn ddarparu'r gwasanaeth dywededig neu os nad yw ansawdd y gwasanaeth yn bodloni safonau'r Darparwr. Os bydd y Darparwr yn arfer yr hawl hon, bydd y Defnyddiwr yn derbyn ad-daliad llawn heb unrhyw ddidyniadau.
Dylid cyfeirio unrhyw gwynion ynghylch safon ac ansawdd y gwasanaeth neu'r cynhyrchion a brynir drwy'r cyfleuster e-fasnach at y tîm gweinyddol drwy e-bostio: enquiries@apdservices.net
Diweddaru'r Telerau ac Amodau hyn
Mae’r Darparwr yn cadw'r hawliau i newid, addasu, ychwanegu neu ddileu rhannau neu'r cyfan o'r Telerau ac Amodau hyn o bryd i'w gilydd. Bydd newidiadau i'r Telerau ac Amodau hyn yn dod yn weithredol pan fydd y newidiadau hyn yn cael eu postio ar y Wefan hon.
Mae’r Defnyddiwr wedi ymrwymo i wirio'r Telerau a’r Amodau hyn ar y Wefan o bryd i'w gilydd rhag ofn bod newidiadau neu ddiweddariadau. Os bydd y Defnyddiwr yn parhau i ddefnyddio’r Wefan hon ar ôl i newidiadau neu ddiweddariadau gael eu postio, ystyrir bod y Defnyddiwr yn derbyn y bydd yn cadw at y Telerau a’r Amodau hyn ac yn ymrwymo iddynt, gan gynnwys newidiadau neu ddiweddariadau o'r fath.
Preifatrwydd: syrffio achlysurol
Gall y Defnyddiwr ymweld â'r Wefan heb ddarparu unrhyw wybodaeth bersonol. Mewn achosion o'r fath bydd gweinyddwyr y Wefan yn casglu cyfeiriad IP cyfrifiadur y Defnyddiwr, ond nid y cyfeiriad e-bost nac unrhyw wybodaeth wahaniaethol arall. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei hagregu i fesur nifer yr ymweliadau, yr amser a dreulir ar gyfartaledd ar y Wefan, y tudalennau a welwyd, ac ati. Mae'r darparwr yn defnyddio'r wybodaeth hon i bennu'r defnydd o'r Wefan, ac i wella Cynnwys arni. Nid yw'r darparwr yn cymryd unrhyw rwymedigaeth i ddiogelu'r wybodaeth hon, a gall gopïo, dosbarthu neu ddefnyddio gwybodaeth o'r fath fel arall heb gyfyngiad.
Hawlfraint a Hawliau Eiddo Deallusol
Mae'r Darparwr yn darparu gwybodaeth benodol ar y Wefan. Darperir y cynnwys y rhagwelir y bydd yn cael ei arddangos neu sy’n cael ei arddangos ar y Wefan hon ar hyn o bryd gan y Darparwr, ei gysylltiadau a/neu is-gwmni, neu unrhyw berchnogion trydydd parti eraill ar gynnwys o'r fath, ac mae'n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i Weithiau Llenyddol, Gweithiau Cerddorol, Gweithiau Artistig, Recordiadau Sain, Ffilmiau Sinematograff, Darllediadau Sain a Theledu, Arwyddion Cludo Rhaglenni, Rhifynnau Cyhoeddedig a Rhaglenni Cyfrifiadurol (“y Cynnwys”). Mae pob gwaith perchnogol o'r fath, a chrynhoi'r gweithiau perchnogol, yn hawlfraint i'r Darparwr, ei gysylltiadau neu ei is-gwmni, neu unrhyw berchennog trydydd parti arall ar hawliau o'r fath (“y Perchnogion”) ac fe'i diogelir gan gyfreithiau hawlfraint rhyngwladol. Mae'r Darparwyr yn cadw'r hawl i wneud unrhyw newidiadau i'r Wefan, y Cynnwys, neu i gynhyrchion a/neu wasanaethau a gynigir trwy'r Wefan ar unrhyw adeg a heb rybudd. Mae pob hawl yn ac i'r Cynnwys yn cael eu cadw gan y Perchnogion. Ac eithrio fel y nodir yn y Telerau ac Amodau hyn, ni roddir trwydded nac unrhyw hawl arall i'r Defnyddiwr gan gynnwys heb gyfyngiad o dan Hawlfraint, Nod Masnach, Patent neu Hawliau Eiddo Deallusol eraill yn y Cynnwys neu iddo.
Dewis Cyfraith
Mae'r Wefan hon yn cael ei rheoli, ei gweithredu a'i gweinyddu gan Ddarparwr o'i swyddfeydd yn y Deyrnas Unedig (DU). Gwaherddir mynediad i'r Wefan o diriogaethau neu wledydd lle mae Cynnwys neu brynu'r cynhyrchion a werthir ar y Wefan yn anghyfreithlon. Os yw'r Defnyddiwr yn cyrchu'r Wefan hon o leoliadau y tu allan i'r DU, y Defnyddiwr hwnnw sy'n gyfrifol am gydymffurfio â'r holl gyfreithiau lleol. Bydd y Telerau ac Amodau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Llysoedd Cymru a Lloegr, ac mae’r Defnyddiwr yn cydsynio i awdurdodaeth Llysoedd Cymru a Lloegr os bydd unrhyw anghydfod. Os bydd llys awdurdodaeth gymwys yn canfod bod unrhyw un o ddarpariaethau’r Telerau ac Amodau hyn yn annilys neu’n anorfodadwy, bydd y ddarpariaeth honno’n cael ei gorfodi i’r graddau mwyaf a ganiateir i roi effaith i fwriad y Telerau ac Amodau hyn, a bydd gweddill y Telerau ac Amodau hyn yn parhau mewn grym ac effaith lawn. Mae'r Telerau ac Amodau hyn yn ffurfio'r cytundeb cyfan rhwng y
Cyfyngu ar atebolrwydd
Mae’r Wefan a’r holl Gynnwys ar y Wefan, gan gynnwys unrhyw gynnig presennol neu yn y dyfodol o gynnyrch neu wasanaethau, yn cael eu darparu ar sail “fel y mae”, a gallant gynnwys anghywirdebau neu wallau teipio. Nid yw'r Perchnogion yn gwneud unrhyw warant na chynrychiolaeth ynghylch argaeledd, cywirdeb na chyflawnrwydd y Cynnwys. Ni fydd y Darparwr nac unrhyw gwmni daliannol, cyswllt nac is-gwmni i’r Darparwr, yn gyfrifol am unrhyw ddifrod uniongyrchol neu anuniongyrchol arbennig, canlyniadol neu unrhyw ddifrod arall o unrhyw fath a ddioddefwyd neu a achoswyd, yn ymwneud â defnyddio, neu anallu i gyrchu neu ddefnyddio’r Cynnwys neu'r Wefan neu unrhyw swyddogaethau sydd ohoni, neu unrhyw wefan gysylltiedig, hyd yn oed os yw'r Darparwr yn cael ei hysbysu'n benodol ohoni.
Datganiad Preifatrwydd
Pam mae angen eich gwybodaeth arnom?
Byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at nifer gyfyngedig o ddibenion a bob amser yn unol â'n cyfrifoldebau, lle mae sail gyfreithiol, a'ch hawliau o dan y ddeddfwriaeth Diogelu Data.
Byddwn yn defnyddio gwybodaeth bersonol at y diben y gwnaethoch chi ddarparu'r wybodaeth ar ei chyfer, e.e.. casglu neu brosesu dyledion amrywiol i'n galluogi i ddarparu'r gwasanaethau rydych chi eu hangen, ac i brosesu trafodion ariannol. Yn ychwanegol, rydym yn defnyddio’r wybodaeth i gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol amrywiol neu i ni ofyn am gyngor cyfreithiol neu gynnal achos cyfreithiol.
Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth?
Efallai y byddwn yn datgelu gwybodaeth bersonol i drydydd parti, ond dim ond lle mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith, neu os mae’n hanfodol er mwyn darparu gwasanaeth penodol. Byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod gan y trydydd parti systemau a gweithdrefnau digon cadarn ar waith i amddiffyn eich gwybodaeth bersonol.
Pa mor hir y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?
Ni fyddwn yn cadw eich gwybodaeth yn hwy nag sydd angen.
Gyda phwy y gallwn rannu eich gwybodaeth?
Gall Gwasanaethau APD Cyf ddarparu gwybodaeth bersonol i drydydd parti, ond dim ond lle bo angen, naill ai i gydymffurfio â'r gyfraith neu pan ganiateir hynny o dan ddeddfwriaeth Diogelu Data.
Defnyddio Teledu Cylch Cyfyng a Chamerâu a Wisgir ar y Corff
Lle mae camerâu a wisgir ar y corff yn cael eu defnyddio gan staff at ddibenion diogelwch ac atal a chanfod troseddau, mae arwyddion yn cael eu harddangos yn eich hysbysu bod teledu cylch cyfyng ar waith.
Dim ond at ddibenion diogelwch y cyhoedd ac atal a chanfod trosedd y byddwn yn datgelu delweddau teledu cylch cyfyng i drydydd parti.
Sut i gael gafael ar y wybodaeth sydd gennym amdanoch chi?
Mae gennych hawl i ofyn am gopi o'ch gwybodaeth bersonol, gan gynnwys lluniau a fideos sydd gennym ohonoch chi. Os hoffech wneud hynny, cysylltwch â Gwasanaethau APD Services Cyf trwy e-bost neu drwy’r post gan roi cymaint o fanylion â phosibl inni am y wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Byddwch yn derbyn copi o'r wybodaeth a gedwir amdanoch ynghyd ag esboniad o unrhyw godau a ddefnyddir neu eglurhad arall a allai fod yn angenrheidiol.